Beth sy’n cael ei gynnig?

Yn 2007, dyma’r pecynnau nawdd:

Categorïau’r Gwobrau

Mae cyfle i sefydliadau ddewis un o’r deg categori o Wobrau i’w noddi. Nhw fydd unig noddwr y wobr honno a chânt eu henw arni. Y categorïau yn 2007 yw:
  • Llety Seren Aur
  • Ansawdd a Gofal am Gwsmeriaid
  • Gwobr y Gwyliau Amgen
  • Gwobr yr Ail Filltir
  • Adeiladu Timau
  • Y Digwyddiad Gorau yng Nghymru
  • Golff i Godi’r Galon
  • Arloeswr Twristiaeth
  • Ymgyrch Farchnata Orau
  • Sgiliau Cogyddion Cymru 2007
Bydd noddwyr pob un o’r categorïau yn cael pecyn pwrpasol wedi’i greu’n arbennig i ateb eu gofynion marchnata nhw.

Cyfleoedd eraill am nawdd

Yn ogystal â gwobrau’r categorïau, bydd cyfleoedd eraill i noddwyr yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, er enghraifft:
  • Prif Noddwr y Gwobrau
  • Taflen i’w chadw
  • Gwahoddiadau’r seremoni wobrwyo
  • Noddi’r adloniant
  • Blodau a phethau bach ar y byrddau
  • Gwobrau noddedig
  • Derbyniad diodydd a siampaen
Mae pecynnau nawdd mwy penodol ar gyfer arddangosfa busnes-i-fusnes Arddangosiad Cymru ar gael hefyd, yn cynnwys:
  • Prif noddwyr yr arddangosfa
  • Pecyn cynadleddwyr
  • Noddi’r seminarau
  • PBrand ar y rhaglen
  • Croesogarwch a gweithgareddau gyda’r nos
  • Noddi’r adloniant
  • Logo ar bethau ychwanegol e.e. arwyddion baner, teils carped
Manteision noddi

Dyma rai o’r manteision a gaiff y noddwyr:
  • Partneriaeth gyda phrif ddigwyddiad twristiaeth Cymru yn 2007
  • Cyfle i gael llawer o sylw i’ch brand
  • • Cyfle i gael llawer o sylw gan y wasg a’r cyfryngau
  • Cysylltiad â phrif fusnesau twristiaeth Cymru
  • Cysylltiad â ffurfwyr barn allweddol ac arweinwyr y diwydiant croeso
  • Cyfle i ddatblygu pecyn nawdd arbennig ar eich cyfer chi
  • Cysylltiad â diwydiant croeso sy’n werth £3 biliwn, sy’n cynnal dros 100,000 o swyddi mewn dros 10,000 o fusnesau
Pwy i gysylltu â nhw

Os hoffech drafod y posibiliadau a’r cyfleoedd ar gyfer noddwyr, gallwch gysylltu â Quadrant, rheolwyr yr achlysur yn 2007.

Bydd yn bleser gan Quadrant roi rhagor o wybodaeth i chi a thrafod sut y gellir creu pecyn pwrpasol i adlewyrchu anghenion marchnata a gwerthoedd eich sefydliad.

Cewch fynd i wefan y digwyddiad hefyd yn www.walesonshow.com ac edrych yn yr adran arbennig i noddwyr

Cysylltwch â:

Tony Chilcott neu Katrina Cinus
Quadrant Media & Communications Limited
Greenmeadow Springs
Tongwynlais
Caerdydd CF15 7NE

Ffôn: 029 2069 4900
E-bost: visitwales.enquiries@quadrant.uk.com