Gwobrau’r Categorïau a’r Meini Prawf
Ansawdd a Gofal am GwsmeriaidGwasanaeth, croesogarwch, safon a gofal cwsmer ardderchog – dyna y mae’r beirniaid yn chwilio amdano – busnesau sy’n unigryw, yn ddyfeisgar ac sy’n cynnig profiad gwirioneddol gofiadwy i ymwelwyr.
Bwriad y wobr hon yw cyflwyno modelau rôl cadarnhaol ar gyfer y diwydiant croeso yng Nghymru. Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cael o leiaf bedair seren gan Croeso Cymru. Rhaid i atyniadau fod wedi’u hachredu gan VAQAS.
Dyma’r is-gategorïau:
- Llety Hunan-ddarpar
- Maes Carafanau
- Atyniad
Gwobr y Gwyliau AmgenYn y dosbarth hwn, rydym yn chwilio am fusnesau twristiaeth a all ddangos eu bod yn cynnig gwyliau (hir neu fyr) gwahanol i’r arfer i ymwelwyr.
Bydd enillydd y wobr hon yn cynnig rhywbeth i bobl sy’n chwilio am antur neu brofiadau newydd. Rhaid cynnig profiad dilys a chyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol a rhaid bod yn ddyfeisgar. Dyma gyfle i ddangos beth sy’n gwneud Cymru’n wahanol go iawn – ei hamgylchedd, ei thirwedd hudolus, ei hanes a’i diwylliant.
Gwobr yr Ail FilltirBydd y wobr hon yn cydnabod pobl sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y diwydiant croeso ac sy’n mynd yr ail filltir i ddiwallu anghenion ymwelwyr neu’n gwneud ymdrech arbennig i sicrhau eu bod yn mwynhau eu gwyliau. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r busnes.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n arfer osgoi sylw – ac rydyn ni’n gofyn i chi eu henwebu am y wobr. Does dim ots beth yw eu gwaith – os ydyn nhw’n gwneud eu gorau i wneud ymweliad rhywun yn gofiadwy, rydyn ni eisiau clywed amdanyn nhw.
Adeiladu TimauYma yng Nghymru, rydym yn cynnig pob math o wahanol weithgareddau adeiladu timau sy’n rhoi cyfle i bobl adael y swyddfa a gwneud rhywbeth mwy diddorol. Cynigiwn rywbeth unigryw i bobl sy’n barod i ddysgu meddwl mewn ffordd wahanol.
Rydyn ni’n chwilio am gwmnïau, trefnwyr, atyniadau, asiantaethau neu gonsortia sydd â rhaglen neu becyn o weithgareddau adeiladu timau ar gyfer cwmnïau, cymdeithasau neu fentrau annog. Bydd gan yr enillydd gynllun busnes/marchnata i ddenu’r farchnad broffidiol hon a chynlluniau i ddatblygu’r busnes. Bydd angen tri geirda arnoch hefyd oddi wrth gwmnïau sydd wedi cymryd rhan yn eich gweithgareddau ers mis Mehefin 2005.
Digwyddiad Gorau yng NghymruMae dau is-ddosbarth ar gyfer y wobr hon:
- Digwyddiad Mawr
Y bwriad yw gwobrwyo digwyddiadau sy’n cynnig profiad o’r safon uchaf i ymwelwyr ac a allai ddenu ymwelwyr newydd o’r tu allan i’r ardal leol a dod â Chymru i amlygrwydd fel lle ardderchog i gynnal digwyddiadau.
Trwy farchnata a hyrwyddo llwyddiannus, bydd nifer yr ymwelwyr a swm yr arian y maent yn ei wario wedi tyfu mewn ffordd gynaliadwy a bydd yr atyniad/digwyddiad yn ymrwymo i ddatblygu a gwella yn unol ag anghenion yr ymwelwyr. Mae’n hanfodol cynnig gwasanaeth, gofal cwsmer a chroesogarwch rhagorol ynghyd ag ymrwymo i hyfforddi staff a hybu’r ymdeimlad o le Cymreig. Bydd angen dangos eich bod yn cynllunio at y dyfodol a bod y digwyddiad yn gynaliadwy yn ariannol.
- Digwyddiad Cymunedol
Y bwriad yw gwobrwyo digwyddiad sydd wedi gwneud lles economaidd i’r gymuned leol e.e. helpu i adfywio’r gymuned ac ennyn balchder ynddi. Bydd y prosiect wedi llwyddo i dynnu sylw at yr ardal a bydd wedi dechrau denu ymwelwyr iddi gan ddod â manteision economaidd i fusnesau lleol.
Bydd y prosiect yn elwa ar sgiliau ac arbenigedd trigolion a busnesau bach yr ardal i roi profiadau cyffrous, cynaliadwy ac unigryw i ymwelwyr. Y bobl fydd yn gyfrifol am lwyddiant y digwyddiad a fydd yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o’r gymuned i ymwelwyr. Bydd yn eu helpu i deimlo’n rhan o’r hyn sy’n digwydd yn yr ardal ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn iddynt.
Golff i godi’r galonYng Nghymru, gallwch chwarae golff fel y dylid ei chwarae. Gallwch chwarae’ch gêm chi’ch hunan, gan bwyll, gan fwynhau’r golygfeydd amheuthun. Dyna beth yw ‘Golff i godi’r galon’.
Rhoddir y wobr hon i glwb golff, canolfan golff a hamdden, trefnydd teithiau golff neu ddarparwr llety sy’n cynnig pecynnau golff a’i nod yw gwobrwyo sefydliad sy’n tynnu sylw at Gymru fel lle i chwarae golff, gan ddenu mwy o bobl, cynyddu gwerth twristiaeth golff a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Cwpan Ryder yn 2010.
Arloeswr TwristiaethMae llawer o entrepreneuriaid yn byw yng Nghymru ac yn cael eu hysbrydoli ganddi. Mae pobl sy’n gweithio yng Nghymru yn meddwl yn wahanol, yn meddwl ar raddfa fawr ac yn llwyddo.
Bydd y wobr hon yn cydnabod cyfraniadau llwyddiannus entrepreneuriaid i’r diwydiant croeso yng Nghymru, a sut y maent wedi creu neu adfywio busnes, gan wneud lles sylweddol i dwristiaeth y wlad. Bydd yn dangos bod syniadau gwreiddiol a pharodrwydd i herio’r hen ffyrdd o feddwl wedi eu helpu i ddatblygu a gwella’u busnes. Byddant yn ymroddgar, yn frwd, yn ddyfeisgar ac yn barod i fentro a byddant yn gallu dangos canlyniadau’r newidiadau a’r gwelliannau a wnaed ganddynt.
Ymgyrch Farchnata OrauGwobr yw hon i gydnabod busnesau twristiaeth bach a mawr sydd ag ymgyrch farchnata greadigol sydd wedi helpu i ddenu ymwelwyr i Gymru.
Nid mater o hysbysebion sgleiniog, costus yw hyn: rydyn ni’n chwilio am ymgyrch farchnata wreiddiol a dyfeisgar ag iddi strategaeth a chynllun manwl ac amcanion clir. Mae’n bwysig ymchwilio’n drwyadl i’r mater, dangos llwyddiant trwy werthuso a dangos effaith yr ymgyrch ar elw’r cwmni.
Llety Seren AurBwriad y categori hwn yw gwobrwyo’r llety gorau oll yng Nghymru. Ni wahoddir ceisiadau ar gyfer y categori hwn gan y bydd y rhestr fer yn cynnwys gwestai a llety gwyliau arall sydd wedi cyrraedd safon newydd Seren Aur Croeso Cymru. Bydd enillwyr y Wobr Aur yn cael gwybod (o dan embargo) ym mis Mehefin 2007. Caiff rhestr fer ei llunio o blith yr enillwyr a chyhoeddir enwau enillwyr y wobr genedaethol yn y seremoni wobrwyo. Amcangyfrifir y bydd hyd at 30 o fusnesau’n ennill y wobr Aur (tua 2% o’r busnesau sydd wedi’u graddio).
Bydd dau is-gategori i’r dosbarth hwn:
- Gwesty
- Llety gwyliau arall
Mae’r wobr Llety Seren Aur yn gysylltiedig â chynllun graddio ac asesiad Croeso Cymru ac felly ni fydd modd i fusnesau ymgeisio yn y categori hwn. Mae’r Wobr yn rhoi cryn bwyslais ar awyrgylch, cyfforddusrwydd, ansawdd y bwyd, safon y gwasanaeth a gofal cwsmer. Mae’n rhaid i fusnesau sy’n ennill y Wobr Aur ddangos bod ganddynt ymrwymiad i addysgu a datblygu staff.
Sgiliau Cogyddion Cymru 2007Mae’r wobr hon yn dathlu llwyddiant y cogyddion hynny yng Nghymru sydd wedi rhagori gan ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u gallu trwy hyfforddiant yn y gweithle.
Yn y farchnad gystadleuol hon, mae sgiliau cogyddion yn dod yn fwy hanfodol o hyd i lwyddiant busnesau a’r gobaith yw y bydd y wobr hon yn helpu i ysbrydoli cynnydd pellach yn ansawdd gwaith arlwyo yng Nghymru.
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon wedi cyrraedd y lefelau uchaf o ran gallu a chyflawniad. Gobeithio y bydd mwy a mwy o gogyddion a’u cyflogwyr yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd datblygu sgiliau.
Ni wahoddir ceisiadau ar gyfer y categori hwn – bydd yr ymgeiswyr wedi’u henwebu gan eu cyflogwyr ac eraill a byddant yn cael eu hasesu yn erbyn safonau penodedig uchel i gydnabod eu hymroddiad i wella’u sgiliau a’u llwyddiant i wneud hynny.