Arddangosiad Cymru
2 – 4 Hydref 2007


  

Mae Arddangosiad Cymru wedi ennill ei blwyf fel achlysur effeithiol lle gall trefnwyr teithiau ac asiant-brynwyr weld beth sydd gan Gymru i’w gynnig ym maes twristiaeth a chwrdd â chyflenwyr allweddol er mwyn datblygu rhaglenni. Bydd cyfle i grwydro’n rhydd o gwmpas yr arddangosfa ac i drefnu apwyntiadau â’r cyflenwyr yn ystod yr arddangosfa undydd ar 3 Hydref. Bydd cyfle hefyd i feithrin cysylltiadau gweithiol dros ginio a gyda’r nos gan ddysgu mwy am gymeriad unigryw Cymru, ei bwyd a’i hadloniant.

Cynhelir Arddangosiad Cymru 2007 yn Venue Cymru ar bromenâd hir Llandudno. Llandudno yw tref lan môr fwyaf poblogaidd y Gogledd ac mae mewn lle hwylus i grwydro’r ardal. Ar draws yr aber mae tref ganoloesol Conwy, sy’n Safle Treftadaeth Byd, â’i chastell o’r drydedd ganrif ar ddeg, ei harbwr del a’i hadeiladau hanesyddol. Ym Mharc Cenedlaethol Eryri gerllaw y mae mynydd uchaf Cymru a Lloegr.

Cynigir teithiau ymgyfarwyddo ar wahanol themâu ledled Cymru yn y cyfnod o flaen Arddangosiad Cymru. Ymhlith y dewisiadau mae: Rhai o Uchafbwyntiau Cymru; Yr Awyr Agored; Golff i Godi’r Galon; Cyrchfannau Teithiau Cymell i Fusnesau; Ymweliadau Mordeithiau; a Dysgu Saesneg yng Nghymru.