Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 07


Prif bwrpas Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yw tynnu sylw at elfennau gorau’r diwydiant yng Nghymru–rhoi gwybod i bobl am sêr diwydiant croeso Cymru a dangos cymaint sy’n cael ei gyflawni trwy waith caled, dyfeisgarwch ac ymroddiad.

Yn 2007, cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog ar dir Castell Bodelwyddan yn y Gogledd ar nos Iau, 4 Hydref ac mae’n siwr o fod yn noson i’w chofio.

Y noson wobrwyo fydd uchafbwynt arddangosfa dridiau busnes-i-fusnes –Arddangosiad Cymru–pryd y daw bron 250 o brynwyr ac asiantau teithio rhyngwladol i gysylltiad â busnesau twristiaeth o Gymru.

Hoffem i chi gael bod yn rhan o’r noson arbennig hon trwy lenwi ffurflen gais er mwyn sicrhau eich bod chi neu rywun yr ydych yn eu nabod yn cael eu cydnabod am eu gwaith arbennig.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 1af Mehefin 2007.