Pecynnau ar gyfer Cwmnïau Teithio a Phrisiau Unigol 2007–8

Dyma fanylion pecynnau ar gyfer cwmnïau teithio a digwyddiadau unigol sydd ar gael yn uniongyrchol gan Croeso Cymru. Mae pecynnau a stondinau unigol yn Arddangosiad Cymru ar gael hefyd, trwy’r pedwar corff rhanbarthol, i gyflenwyr yn yr ardaloedd perthnasol, rhai ohonynt am brisiau arbennig. Os hoffech ragor o fanylion, nodwch eich diddordeb mewn arddangos ymlaen llaw a byddwn yn cysylltu â chi â manylion y cynigion sydd ar gael.

Pecyn Aur (£2900 a TAW)
Arddangosiad Cymru a’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2 – 4 Hydref 2007
1 stondin neu le cyfatebol. Bydd y stondinau’n mesur 3m x 2m a bydd lle i hyd at ddau o bobl wrth bob stondin

World Travel Market (WTM), Excel, Llundain, Tachwedd 2007
1 pod sy’n cynnwys 1 panel graffeg mawr ac 1 bwrdd / 2 gadair (hyd at ddau o bobl ar y tro). Rhaid aros yn y sioe am bedwar diwrnod

ITB Berlin, Mawrth 2008
1 cownter pen bwrdd mewn adran fwy ar gyfer Cymru – hyd at dau bartner i bob cownter

Sioe Teithiau Grwpiau 2008
Stondin un un o brif sioeau’r diwydiant teithiau grwpiau tua dechrau 2008. Rhagor o fanylion i ddilyn

Pecyn Arian (£2550 a TAW)
Arddangosiad Cymru a’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2 – 4 Hydref 2007
1 stondin neu le cyfatebol. Bydd y stondinau’n mesur 3m x 2m a bydd lle i hyd at ddau o bobl wrth bob stondin

World Travel Market (WTM), Excel, Llundain, Tachwedd 2007
1 pod sy’n cynnwys 1 panel graffeg mawr ac 1 bwrdd / 2 gadair (hyd at ddau o bobl ar y tro). Rhaid aros yn y sioe am bedwar diwrnod

Sioe Teithiau Grwpiau 2008
Stondin un un o brif sioeau’r diwydiant teithiau grwpiau tua dechrau 2008. Rhagor o fanylion i ddilyn

Pecyn Efydd (£2100 plus vat)
Arddangosiad Cymru a’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2 – 4 Hydref 2007
1 stondin neu le cyfatebol. Bydd y stondinau’n mesur 3m x 2m a bydd lle i hyd at ddau o bobl wrth bob stondin

World Travel Market (WTM), Excel, Llundain, Tachwedd 2007
1 pod sy’n cynnwys 1 panel graffeg mawr ac 1 bwrdd / 2 gadair (hyd at ddau o bobl ar y tro). Rhaid aros yn y sioe am bedwar diwrnod

Os hoffech brynu unrhyw un o’r uchod yn unigol, dyma’r costau a TAW:
Arddangosiad £900 WTM £2750
ITB £1400 Sioe Teithiau Grwpiau £ TBA