Cwestiynau Cyffredin

Faint o le fydd gen i?

Bydd gennych gynllun cragen safonol 3 x 2 metr.

Beth fydd pecyn y stondin yn ei gynnwys?

Yn ogystal â’r cynllun cragen, bydd eich stondin yn cynnwys dau sbotolau 120w at ddibenion cyffredinol ac un soced unigol 500w ar gyfer y prif gyflenwad trydan. Mae bwrdd a dwy gadair yn cael eu cynnwys yn y pecyn arddangos ond mae’n rhaid i chi ofyn amdanynt wrth lenwi’r Ffurflen Arddangoswyr.

Lle bydd fy stondin?

Bydd y stondinau yn yr Arena yn Venue Cymru. Caiff y stondinau eu dyrannu yn ôl y rhanbarth neu’r hyn a gynigir. Bydd rhifau a lleoliadau’r stondinau ar gael ym mis Medi.

A gaf i gynnig bwydydd/diodydd i’w profi ar fy stondin?

Cewch gynnig samplau bychan o fwyd a diod i’r cynadleddwyr o’ch stondin.

Pa ddefnyddiau arddangos a thaflenni ddylwn i ddod gyda mi?

Cefndir gwyn plaen foamex sydd i’r cynllun cragen 3 x 2m. Felly, dylech ddod â naill ai gwpwl o stondinau baneri neu stondin pop-up fach, neu ddefnyddiau arddangos deniadol eraill. Ni fydd angen llawer iawn o daflenni/llyfrynnau perthnasol i’r diwydiant arnoch. Mae’n siwr y bydd yn well gan lawer o’r prynwyr i chi anfon stwff atynt ar ôl iddynt fynd adref rhag iddynt orfod cario llawer ohonynt.

Efallai y byddwch am ddod â gliniadur i ddangos eich gwefan ond, yn aml, mae’n well gan brynwyr ddefnyddio’r amser i drafod eu hanghenion a’r gwahanol opsiynau a byddai’n well ganddynt pe baech yn cysylltu â nhw ac yn eu cyfeirio at wefannau perthnasol wedyn.

Beth arall ddylwn i ddod gyda mi?

Unrhyw wybodaeth ar gyfer trefnwyr teithiau yn cynnwys prisiau arbennig ar gyfer unigolion a grwpiau, unrhyw nodweddion arbennig y gallwch eu cynnig i’r diwydiant (ecsgliwsif neu beidio) e.e. cyfle i weld y tu ôl i’r llenni, llefydd am ddim ar gyfer gyrrwr/tywysydd ac ati. Llyfr nodiadau neu ffurflen i nodi’r sgyrsiau a gewch er mwyn cysylltu â’r prynwyr wedyn, styffylwr i roi cardiau busnes yn sownd wrth y rhain, a chofiwch eich cardiau busnes chi’ch hunan! 


Sut fydd y drefn apwyntiadau’n gweithio?

Bydd yr arddangoswyr yn gallu defnyddio’r system ar-lein i edrych ar ddisgrifiadau o gwmnïau’r prynwyr a gweld pa fath o gwmnïau y maent am gwrdd â nhw. Bydd yr arddangoswyr a’r prynwyr yn gallu trefnu i gwrdd â’r naill a’r llall. (Bydd y prynwyr yn gallu gweld disgrifiadau o’r arddangoswyr ar-lein hefyd). Os cewch neges i ddweud bod prynwr eisiau cwrdd â chi ond nad ydych chi eisiau cwrdd â nhw, bydd angen i chi anfon ateb at y prynwr yn esbonio’ch rhesymau. Yn yr un modd, bydd prynwyr yn gallu gwrthod apwyntiadau os ydynt yn teimlo nad ydynt yn berthnasol i’w busnes.

A allwn ni gael rhestr o’r prynwyr ymlaen llaw?

Cewch weld manylion y cwmnïau trwy’r system apwyntiadau ar-lein ond chewch chi ddim o’u manylion cysylltu tan y cewch chi’r pecyn cynadleddwyr yn Arddangosiad Cymru.

Rwy’n rhan o gonsortiwm a bydd angen bathodynnau arnom ar gyfer nifer o bobl gan y byddwn yn cymryd ein tro i weithio ar y stondin ac i ddod i’r digwyddiadau gyda’r nos – sut mae trefnu hyn?

Yn yr holl gyfarfodydd busnes a rhwydweithio mae gan bob stondinwr hawl i gael dau gynrychiolydd (yn achos pobl sy’n rhannu stondin, 1 cynrychiolydd i bob cwmni). Bydd angen i chi roi gwybod i ni pa ddau gynrychiolydd fydd yn dod i pa gyfarfod pan fyddwch yn llenwi’r Ffurflen Arddangoswyr (ar-lein). Bydd pob cynrychiolydd yn cael bathodyn ond bydd raid iddynt fod wedi cadarnhau eu bod yn dod i gyfarfod cyn y cânt fynd iddo.

A gaf i brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer seremoni Gwobrau Cenedlaethol Twristiaeth Cymru?

Nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer yr achlysur hwn. Rhoddir un tocyn am ddim ar gyfer pob stondin. Os hoffech nodi’ch diddordeb mewn prynu tocynnau ychwanegol ar gyfer yr achlysur hwn, ffoniwch Tamsin Ackerman neu Katrina Cinus yn Quadrant ar 029 2069 4900.