Croeso i Adran Arddangoswyr Arddangosiad Cymru

Wrth gael stondin yn Arddangosiad Cymru, byddwch ymhlith cant o fusnesau twristiaeth yng Nghymru a fydd yn cwrdd â rhyw 250 o asiantau a threfnwyr teithiau o Brydain a thramor.

Er mwyn elwa i’r eithaf o’r achlysur, awgrymwn eich bod yn manteisio ar y cyfleoedd i rwydweithio yn ogystal â’r arddangosfa/gweithdy undydd. Byddwn yn trefnu teithiau dod i nabod Cymru dros y penwythnos cyn yr Arddangosiad a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn Arddangosiad Cymru yn cael blaenoriaeth yn y teithiau hyn. Bydd cyfleoedd i gwrdd â’r prynwyr ar y teithiau hyn. Rydym wedi paratoi pecynnau cost-effeithiol ar gyfer cwmnïau teithio sy’n cynnwys cymryd stondin yn Arddangosiad Cymru a nifer o ddigwyddiadau eraill ar gyfer y fasnach deithio.

Neu gallwch ddewis cymryd stondin yn Arddangosiad Cymru yn unig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y botymau ar ochr chwith y dudalen.

Mae’n rhaid i chi gofrestru’n llawn fel arddangoswr er mwyn dod i unrhyw ran o Arddangosiad Cymru. Nodwch eich diddordeb mewn arddangos nawr. Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael!

Cliciwch yma i nodi'ch diddordeb