Sioe dwristiaeth bwysig a gynhelir am dridiau bob yn ail flwyddyn. Caiff ei threfnu gan Croeso Cymru ac fe’i cynhelir o rhwng 2 a 4 Hydref 2007 yn y Gogledd.
ARDDANGOSIAD CYMRU:
Sioe dwristiaeth busnes-i-fusnes arbennig Cymru lle mae 250 o brynwyr ar ran trefnwyr teithiau o Brydain a thramor yn cwrdd â chyflenwyr gwasanaethau twristiaeth o Gymru mewn arddangosfa/gweithdy undydd ar 3 Hydref, mewn cyfarfodydd rhwydweithio gyda'r nos ar 2 a 3 Hydref, ac ar deithiau ymgyfarwyddo cyn yr Arddangosiad.
Bydd y Seremoni Wobrwyo ar dir Castell Bodelwyddan ar nos Iau 4 Hydref yn noson fawreddog a chyffrous i wobrwyo goreuon y diwydiant croeso yng Nghymru. Yn nwylo diogel cyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, gallwn ddisgwyl i’r noson haeddu’r enw “Oscars twristiaeth”.